Ond yr hyn sy’n digwydd yn gynyddol erbyn hyn yw bod y ddeddf yma yn cael ei defnyddio fel esgus i atal ffotograffwyr rhag tynnu llun heddweision wrth iddynt fod wrth eu busnes plismona pob dydd. Enghraifft o hyn yw stori'r ddynes yma a chafodd ei hatal yn ffisegol gan yr heddlu oherwydd ei bod hi wedi ffilmio triniaeth cafodd ei sboner hi gan yr Heddlu. Ffilmio'r Heddlu wrth iddynt fynd o gwmpas eu gwaith pob dydd oedd hi, nid oedd cynnwys y ffilm yn mynd i fod o ddefnydd i unrhyw fudiad terfysgol. Er hyn dyna oedd y rheswm dros ei hatal, a’r ymgais i gipio’i ffôn oddi wrthi.
Fel person sy’n cymryd diddordeb mewn ffotograffiaeth, ac wedi tynnu lluniau o brotestiadau a hefyd lluniau o weithredoedd yr heddlu yn y protestiadau hynny, mae’r newyddion hyn yn fy mhoeni. Mae’n amlwg bod yr heddlu yn barod i gam ddefnyddio eu pwerau i atal y cofnodi o ddigwyddiadau gwleidyddol eu naws. Mewn ffordd fe ellir gweld hwn fel sensoriaeth uniongyrchol gan yr heddlu trwy greu awyrgylch o ofn.
Dyma beth y mae’r ddeddf yn ei ddweud:
58. Collection of information
(1) A person commits an offence if—
(a) he collects or makes a record of information of a kind likely to be useful to a person committing or preparing an act of terrorism, or
(b) he possesses a document or record containing information of that kind.
(2) In this section “record”
includes a photographic or electronic record.
Deddf Terfysgaeth 2000

0 comments:
Post a Comment