Os ydych chi a diddordeb mewn technoleg, mae criw Metastwnsh wedi dechrau cynhyrchu podlediadau i chi lawr lwytho a gwrando ar eich cyfrifiadur neu chwaraewr MP3.

Read More!
Os ydych chi a diddordeb mewn technoleg, mae criw Metastwnsh wedi dechrau cynhyrchu podlediadau i chi lawr lwytho a gwrando ar eich cyfrifiadur neu chwaraewr MP3.

Read More!

Mae'n hynod o gyffroes fod yn rhan o dîm sy' gyda phobl dalentog ynddi. Yep mae gan Metastwnsh aelod newydd, a gyda fe'r syniad o greu stwnsh o brofiadau pobl o'r eisteddfod. Gyda'r syniad hwn a dylunio Gareth Jones mae gan Metastwnsh gwasanaeth newydd sy'n ffrydio pob tweet sy'n cynnwys y tag #eisteddfod09 , #eisteddfod a #bala. Ynghyd a hyn mae pob llun sy'n cynnwys y geiriau hyn yn cael eu ffrydio o Flickr, ac mae yna ddefnydd gwych o google maps a grëwyd gan Rhys Llwyd wedi cael ei chynnwys ar y gwefan.
Mae'n syndod faint a ellir cyflawni mewn amser bach iawn a heb gyllideb fawr, os o gwbwl. Meddyliwch beth allai'r BBC, S4C neu'r Eisteddfod ei hun cyflawni os oedd ganddynt y weledigaeth...
Fello os na allwch chi mynd i Bala mewn cwch banana, neu unrhyw ffordd arall, ewch i weld GWASANAETH METASTWNSH.
Read More!

Ond yr hyn sy’n digwydd yn gynyddol erbyn hyn yw bod y ddeddf yma yn cael ei defnyddio fel esgus i atal ffotograffwyr rhag tynnu llun heddweision wrth iddynt fod wrth eu busnes plismona pob dydd. Enghraifft o hyn yw stori'r ddynes yma a chafodd ei hatal yn ffisegol gan yr heddlu oherwydd ei bod hi wedi ffilmio triniaeth cafodd ei sboner hi gan yr Heddlu. Ffilmio'r Heddlu wrth iddynt fynd o gwmpas eu gwaith pob dydd oedd hi, nid oedd cynnwys y ffilm yn mynd i fod o ddefnydd i unrhyw fudiad terfysgol. Er hyn dyna oedd y rheswm dros ei hatal, a’r ymgais i gipio’i ffôn oddi wrthi.
Fel person sy’n cymryd diddordeb mewn ffotograffiaeth, ac wedi tynnu lluniau o brotestiadau a hefyd lluniau o weithredoedd yr heddlu yn y protestiadau hynny, mae’r newyddion hyn yn fy mhoeni. Mae’n amlwg bod yr heddlu yn barod i gam ddefnyddio eu pwerau i atal y cofnodi o ddigwyddiadau gwleidyddol eu naws. Mewn ffordd fe ellir gweld hwn fel sensoriaeth uniongyrchol gan yr heddlu trwy greu awyrgylch o ofn.
Dyma beth y mae’r ddeddf yn ei ddweud:
58. Collection of information
(1) A person commits an offence if—
(a) he collects or makes a record of information of a kind likely to be useful to a person committing or preparing an act of terrorism, or
(b) he possesses a document or record containing information of that kind.
(2) In this section “record”
includes a photographic or electronic record.
Deddf Terfysgaeth 2000

